Julie Morgan
Rhaid i bleidiau gwleidyddol Cymru ddewis ymgeiswyr sy’n ferched, ac atal dynion rhag sefyll etholiad, er mwyn cael gwell balans dynion/merched yn 22 cyngor sir Cymru.
Dyna mae’r Aelod Cynulliad Julie Morgan wedi ddweud wrth gylchgrawn Golwg yr wythnos hon.
Mae hi’n bryderus bod tri chwarter cynghorwyr Cymru yn ddynion, a ddim yn cynrychioli cymdeithas.
“Pan rydych yn ystyried yr holl wasanaethau sy’n cael eu darparu gan ferched o fewn llywodraeth leol mae’n ofnadwy o bwysig fod merched yn ogystal â dynion yn gwneud y penderfyniadau,” meddai Julie Morgan wrth Golwg.
Cyngor Ynys Môn sydd ar nifer leiaf o gynghorwyr benywaidd yng Nghymru – dwy allan o 40 yn unig.
Ymchwiliad trylwyr i alwad Julie Morgan yng nghopi’r wythnos hon o Golwg.