Y llynedd roedd y nifer wnaeth diwnio mewn i S4C am o leia’ dair munud bob wythnos yn uwch na’r flwyddyn flaenorol.
Yn 2010 roedd 616,000 wedi gwylio’r sianel, a gwelwyd cynnydd o 2,000 ar y ffigwr yna yn 2011.
Daw’r ffigyrau diweddaraf yn Adroddiad Blynyddol y Sianel ar gyfer 2011, a gyhoeddwyd yr wythnos hon.
Mae’r wybodaeth yn dangos fod y Sianel wedi llwyddo i atal y cwymp yn nifer y gwylwyr am y tro cyntaf ers bron i ddegawd.
Atal y cwymp
Y nifer yn gwylio o leia’ tair munud o S4C yr wythnos:
2003 – 1,141,000
2004 – 1,040,000
2005 – 919,000
2006 – 864,000
2007 – 731,000
2008 – 664,000
2009 – 549,000
2010 – 616,000
2011 – 618,000
Pigion eraill S4C yn 2011
Y rhaglen gafodd y gynulleidfa fwyaf oedd y gêm bêl-droed rhwng Caerdydd a Stoke City yng nghystadleuaeth Cwpan yr FA – a ddenodd 607,000 o wylwyr yn gyfan gwbl.
Yn yr ail safle o ran chwaraeon, sef y genre sy’n denu’r nifer fwyaf o wylwyr o ddigon, oedd gornest rygbi Gleision Caerdydd v Dreigiau Gwent ar Y Clwb Rygbi, a gafodd 316,000 yn gwylio.
Fe gafwyd 11,466 o bleidleisiau i Cân i Gymru fis Mawrth y llynedd, sef cynnydd o 16% ar ffigwr 2010 yn ôl y Sianel.
Ac fe gafwyd dros 90,000 o alwadau i gystadlaethau Wedi 3 ac Wedi 7 yn ystod 2011.