Rhan o glawr Y Storiwr
Y nofelydd, Jon Gower, yw enillydd Llyfr y Flwyddyn eleni gyda’i gyfrol Y Storïwr.

Yn ôl cadeirydd y beirniaid, Jason Walford Davies, roedd yn “nofel uchelgeisiol a thechnegol-grefftus sy’n brawf o feistrolaeth yr awdur ar sawl cyfrwng a genre llenyddol”.

Mae’r nofel yn dilyn hynt a helynt Gwydion McGideon, bachgen ifanc sy’n meddu ar ddawn dweud anhygoel, wrth iddo ddilyn trywydd sy’n arwain at ei elyn pennaf.

Fe gurodd y bardd Karen Owen a’r bywgraffydd Allan James yn y ras am y brif wobr o £8,000.

Y gwobrau eraill

Dyma’r flwyddyn gyntaf i’r llyfrau gael eu barnu mewn categoriau ac roedd dwy wobr arall o £2,000 yr un i enillwyr y ddau gategori arall.

Karen Owen oedd enillydd y wobr farddoniaeth a Gwobr Barn y Bobl – trwy bleidlais darllenwyr Golwg360 – gyda’i chyfrol farddoniaeth a lluniau, Siarad Trwy’i Het.

Roedd honno’n deyrnged i’r bardd Iwan Llwyd a fu farw ddwy flynedd yn ôl.

Yn annisgwyl, doedd dim gwobr i gofiant Kate Roberts gan Alan Llwyd – cofiant i John Morris Jones gan Allan James a aeth â’r wobr Ffeithiol-Greadigol.

Roedd y gyfrol Kate: Cofiant Kate Roberts 1891-1985 wedi cael mwy o sylw na’r un gyfrol arall yn ystod y flwyddyn gyda’i dadansoddiad manwl o fywyd y llenor a honiadau dadleuol am ei rhywioldeb.

Y gwobrau Saesneg

Ar ôl bod ar restr fer gwobr y Booker, roedd yna fuddugoliaeth yn y categori Saesneg i’r nofelydd Patrick McGuinness o Gaernarfon gyda’i nofel am ddyddiau ola’r Comiwnyddion yn Romania, The Last Hundred Days.

Fe aeth y wobr ffeithiol Saesneg i Richard Gwyn a gwobr farddoniaeth Roland Mathias i Gwyneth Lewis am ei chyfrol The Sparrow Tree.