Bydd albwm newydd ‘Gathering Dusk’ yn cael ei rhyddhau tu allan i Gymru ddiwedd y mis yma ar 30 Gorffennaf. Rhyddhawyd yr albwm yng Nghymru ar  28 Tachwedd y llynedd.  Maia Jones sy’n holi Huw M…

Y syniad tu ôl i’r ailgymysgiadau, medda Huw M yw “cyfle i greu rhywbeth gwahanol, ac ail-ymweld â’r albwm.”

“Felly, pa ffordd well na rhoi caneuon i gerddorion a chynhyrchwyr dwi’n parchu’n fawr er mwyn iddyn nhw eu hailgymysgu a rhoi eu stamp unigryw ar y caneuon. Mae’n arbrawf dwi’n mwynhau yn fawr iawn, achos yn aml mae cael pâr newydd o glustiau, ac ymennydd llawn syniadau yn rhoi gwedd cwbl newydd a chyffrous ar ganeuon.”

Hon yw ail albwm y cerddor yn dilyn rhyddhau ‘Os Mewn Sŵn’ yn 2010. Dywedodd Huw M: “Mae o wastad yn beth da i gael syniadau pobl eraill ar ganeuon, ac maen nhw’n aml yn cymryd y syniad gwreiddiol ar drywydd mwy diddorol nag efallai byddwn i wedi ar fy mhen fy hun.”

Ailgymysgiadau

I gyd-fynd gyda’r lansiad bydd ailgymysgiadau o rai o ganeuon yr albwm ar gael yn Huwm.bandcamp.com.

Bydd ailgymysgiad bob wythnos rhwng rŵan a’r dyddiad rhyddhau. Mae’r gân gyntaf ar gael rŵan, ailgymysgiad o ‘Martha a Mair’ gan y deuawd electronig Twbador.

Dylanwadau

Wrth ddisgrifio arddull a sain yr albwm dywedodd Huw M: “Mae ’na eitha lot o offerynnau gwahanol yn cael lle amlwg iawn – yn cynnwys y corn Ffrengig, sitar, cello, banjo, dipyn go lew o biano ac ,wrth gwrs, y gitâr, ac mae’n cynnwys dylanwadau gwerin o Gymru a dylanwadau o Ffrainc a thu hwnt.”

Gwaith Celf

Mae’r albwm yn cynnwys clawr a gwaith celf drawiadol a ddyluniwyd gan Aled ‘Arth’ Cummins. Mae teitl yr albwm wedi cael ei ddylanwadu gan y gwaith campus yma.  Yn ôl Huw, “mae’r teitl yn dod o gan olaf yr albwm, ‘For while I wait for you to sleep’.

“Roedd gen i nifer fawr o syniadau am deitl i’r albwm ond pan nes i weld gwaith celf y clawr gan yr artist Aled ‘Arth’ Cummins, o’n i’n gwybod yn syth mai ‘Gathering Dusk’ oedd y teitl oeddwn i am ddefnyddio – roedd yn berffaith.”

Clawr yr EP Ailgymysgiadau

Mae’r cysylltiad rhwng celf a cherddoriaeth yn cael ei ddangos yn wych pan mae Huw M yn disgrifio clawr newydd yr EP o ailgymysgiadau. Darparwyd clawr prydferth unwaith eto gan y dylunydd Aled ‘Arth’ Cummins.

Esbonia Huw M: “Mae o’n defnyddio llun o’r un goeden sydd yn ymddangos ar glawr Gathering Dusk, ond bod y llun wedi ei dynnu yn ystod y dydd (yn hytrach na’r nos). Mae’n effeithiol dros ben, ac yn atgyfnerthu’r syniad ein bod yn gweld a chlywed pethau newydd drwy ailymweld a rhywbeth mewn goleuni gwahanol.”

Bydd Huw M yn perfformio’r penwythnos hwn yng Ngŵyl hanner cant ym Mhontrhydfendigaid.