Elan Closs Stephens
Mae Elan Closs Stephens, Ymddiriedolwr Cenedlaethol y BBC yng Nghymru, wedi ei phenodi i Awdurdod S4C yn yr adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon.

Daw’r newydd ddeuddydd yn unig wedi i bennaeth Materion Corfforaethol S4C, Tim Hartley, benderfynu gadael y sianel.

Yn ôl datganiad gan S4C, rôl yr Athro Emeritws Elan Closs Stephens fydd i “fod yn gyfrwng cyfathrebu rhwng Ymddiriedolaeth y BBC ac Awdurdod S4C.”

Yn dilyn ei phenodiad, dywedodd yr Athro Stephens, “Fy mhrif flaenoriaeth fydd helpu i sicrhau fod  S4C yn darparu’r gwasanaeth teledu gorau posib i siaradwyr Cymraeg, ac i warchod annibyniaeth olygyddol S4C, wrth ofalu bod arian ffi’r drwydded yn cael ei wario’n ddoeth.

“Rwy’n benderfynol fod perthynas gwaith agosach rhwng BBC Cymru ac S4C yn arwain at ail-fuddsoddi arbedion mewn rhaglenni o ansawdd uchel er budd cynulleidfaoedd.

“Fy ngobaith hefyd yw y bydd y bartneriaeth yn arwain at danio brwdfrydedd a chefnogi creadigrwydd yn y cyfryngau Cymreig,” ychwanegodd.

Croesawodd Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones, y penderfyniad, “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y cyfraniad allweddol y bydd gan Elan i’w wneud yn y broses o greu partneriaeth newydd effeithiol rhwng S4C a’r BBC.”

Mae apwyntiad Ymddiriedolwr Cenedlaethol y BBC dros Gymru i’r Awdurdod yn deillio o’r cytundeb rhwng Awdurdod S4C, Ymddiriedolaeth y BBC a’r DCMS ar gyllido, llywodraethu ac atebolrwydd S4C yn y dyfodol hyd at 2017.