Bydd S4C yn rhyddhau adroddiad blynyddol y sianel nes ymlaen heddiw.

Mae’r sianel wedi gweld sawl newid yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn sgil y toriadau i gyllideb S4C.

Ddechrau Chwefror eleni, fe gyhoeddodd y sianel fod nifer eu tîm comisiynu am gael ei dorri o naw i bump.

Tuag at ddiwedd mis Mawrth, daeth y newyddion fod aelodau o dîm rheoli’r sianel yn mynd i roi’r gorau i fuddiannau fel ceir cwmni ac yswiriant iechyd preifat.

Dywedodd Prif Weithredwr y sianel, Ian Jones, ar y pryd bod hwn yn rhan o ymdrech i wneud “arbedion ariannol mewnol” yn S4C.

Ym mis Ebrill, cafodd 10 swydd arall eu torri yn ychwanegol at y 32 oedd eisoes wedi mynd yn sgil y cynllun diswyddo gwirfoddol yno ers 2010.

Mae cyflwyno adroddiad blynyddol a datganiad ariannol S4C i’r Senedd yn ddyletswydd statudol ar y sianel o dan Ddeddf Darlledu 1990.