Y llyffant Hyloscirtus princecharlesi
Mae Tywysog Cymru yn fyw ac yn iach ac yn byw mewn afon yn Ecuador.
Mae llyffant prin sy’n byw mewn afon yn y wlad wedi cael ei enw’n Hyloscirtus princecharlesi gan fudiad cadwraeth o Ecuador er mwyn cydnabod ymgyrchu cadwraethol y Tywysog dros y blynyddoedd.
Dywedodd llefarydd ar ran y mudiad Amphibian Ark fod y llyffant yn brin ac mewn peryg oherwydd bod ei amgylchedd naturiol oddi fewn y fforestydd glaw yn cael ei fygwth gan ffermio.
“Mae’n eitha anarferol enwi rhywogaeth newydd ar ôl rhywun ond mae’n cael ei weld fel rhywbeth arbennig i anrhydeddu’r Tywysog,” meddai.
Bydd y gwyddonydd o Ecuador wnaeth ddarganfod y llyffant pedair blynedd yn ôl, Dr Luis A Coloma, yn cyfarfod â Thywysog Siarl mewn gweithdy ‘gwyrdd’ arbennig i blant fydd yn cael ei gynnal yng nghartref y Tywysog, Highgrove, heddiw.
Mae Tywysog Siarl wedi ymgyrchu ers degawdau er mwyn ceisio gwarchod fforestydd glaw’r byd, ac mae wedi sefydlu prosiect i geisio darganfod ateb ariannol i’r broblem o ddifrodi fforestydd glaw.
Mae Hyloscirtus princecharlesi yn llyffant lliw brown, gyda blotiau mawr oren dros ei gorff.