Mae David Cameron yn disgwyl y bydd y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yn cyfrannu £13biliwn i economi Prydain dros y pedair blynedd nesaf.
Mae’r Prif Weinidog yn gweld y Gemau yn gyfle ‘euraid’ i werthu Prydain i’r byd.
Yn ystod ymweliad â dwyrain Canolbarth Lloegr heddiw mi fydd yn ceisio ennyn brwdfrydedd ar gyfer y Gemau Olympaidd trwy ddweud y bydd y Gemau yn ddigwyddiad gwych yn y Parc Olympaidd “syfrdanol”, ac y bydd yn rhoi o’i amser i ennill mwy o fusnes i Brydain yn eu sgil.
Ond dim llawer o fudd i Gymru
Ddoe, roedd arbenigwr o Brifysgol Caerdydd wedi dweud na fyddai Cymru yn cael unrhyw fudd economaidd o bwys oherwydd y Gêmau Olympaidd.
Mewn gwirionedd, meddai Dr Calvin Jones o Ysgol Fusnes Caerdydd, fe fydd gweddill gwledydd Prydain yn cyfrannu arian a gweithwyr i roi hwb i Lundain.
Mewn erthygl i gylchgrawn y brifysgol dywedodd bod y Gêmau eleni wedi eu crynhoi fwy i un ardal fechan nag unrhyw bencampwriaeth erioed.
Mae ei ddadansoddiad yn cadarnhau manylion adroddiad gan Grŵp Bancio Lloyds ddydd Mawrth, wrth iddyn nhw ddadlau y byddai gwledydd Prydain i gyd yn elwa.
Ond roedden nhw hefyd yn dangos mai Cymru oedd y trydydd o’r gwaelod o’r rhanbarthau economaidd o ran prynu tocynnau ar gyfer y Gêmau a dim ond Gogledd Iwerddon a fyddai’n cael llai o wario ychwanegol gan dwristiaid.