Fe fydd yr Ysgrifennydd Amddiffyn Philip Hammond yn amlinellu ei gynlluniau i ail-strwythuro’r fyddin heddiw gan ostwng nifer y milwyr o 102,000 i 82,000 erbyn diwedd y degawd.
Mae pump o gatrodau yn wynebu’r fwyell – yn ôl adroddiadau mae’r Cymry Brenhinol, Catrawd Frenhinol yr Alban, Catrawd Mercia a Chatrawd Swydd Caerefrog yn eu plith – ac mae disgwyl i unedau eraill gael eu huno.
Mae tair catrawd yng Nghymru sef y Cafalri Cymreig, y Gwarchodlu Cymreig a’r Cymry Brenhinol.
O dan y cynllun – sy’n cael ei alw’n “Byddin 2020” – fe all y fyddin gael ei rhannu’n ddwy gydag un uned sy’n barod i ymateb i achosion brys yn fyd-eang, ac uned arall a fydd yn gyfrifol am gyflawni nifer o dasgau a dyletswyddau.
Yn ôl Philip Hammond fe fydd y newidiadau yn gosod y seiliau ar gyfer byddin lai, fwy hyblyg ar gyfer y dyfodol.
Ond mae ’na bryder mawr y bydd catrodau hanesyddol yn diflannu.
Mae disgwyl i Philip Hammond gyhoeddi’r manylion yn Nhŷ’r Cyffredin prynhawn ma. Mae eisoes wedi cyfaddef bod “penderfyniadau anodd” wedi cael eu gwneud ond nad oedd modd osgoi gwneud toriadau gan fod yn rhaid arbed costau o dan Adolygiad Strategaeth Amddiffyn a Diogelwch y Llywodraeth 2010.