Mae Sioe Gogledd Cymru, oedd i fod i gael ei chynnal yng Nghaernarfon ddydd Sadwrn, 7 Gorffennaf, wedi cael ei chanslo oherwydd y glaw trwm.
Dywedodd trefnwyr y sioe bod y maes mewn cyflwr gwael oherwydd y glaw trwm yn ddiweddar.
Dyma’r sioe amaeth diweddaraf i gael ei chanslo oherwydd y tywydd gwlyb.