Mae cwmni cyffuriau GlaxoSmithKline wedi cael dirwyon o £1.9 biliwn ar ôl cyfaddef i dwyll.
Mae cwmni fferyllol mwyaf y DU wedi ei gyhuddo o lwgrwobrwyo doctoriaid yn America i’w cael i argymell meddyginiaethau ar gyfer defnyddiau sydd heb eu cymeradwyo, gan arwain, o bosib, at sgil effeithiau difrifol.
Mae Glaxo, sydd a’i bencadlys yn Llundain, yn cynhyrchu brandiau fel Lucozade a Ribena. Mae disgwyl i’r cwmni bledio’n euog i droseddau yn ymwneud â 10 o gyffuriau sy’n cael eu defnyddio gan filiynau o bobl.
Roedd y cwmni wedi hybu’r cyffuriau Paxil a Wellbutrin, sy’n cael eu defnyddio i drin iselder, ar gyfer defnyddiau oedd heb eu cymeradwyo.
Yn ol yr erlyniad, rhwng 1998 a 2003 roedd Glaxo wedi hybu Paxil i drin iselder mewn plant, er nad oedd wedi ei gymeradwyo ar gyfer pobl dan 18 oed.
Dywedodd Syr Andrew Witty, prif weithredwr Glaxo, bod y cwmni “wedi dysgu o’r camgymeriadau a wnaed.”