Leighton Andrews
Mae Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Papur Gwyn er mwyn holi barn ar y cynigion ar gyfer Mesur Addysg Bellach ac Uwch (Cymru).

Fe fydd y bil yn ymdrin â diddymu ac uno corfforaethau; rhoi mwy o ryddid i golegau fenthyg arian; a sut a phryd y dylai Llywodraeth Cymru ymyrryd mewn materion yn ymwneud â’r colegau a’r prifysgolion.

Bwriad y darpariaethau addysg bellach yw rhoi mwy o ryddid i golegau addysg bellach yng Nghymru, meddai Leighton Andrews.

“Mae llacio’r pwerau hyn yn golygu y caiff yr argymhellion a amlinellir yn yr adroddiad annibynnol ar lywodraethu addysg bellach, a gyhoeddwyd ym Mawrth 2011, a oedd yn hyrwyddo model llywodraethu mentrau cymdeithasol, bellach yn cael eu gweithredu mewn colegau ar sail wirfoddol,” meddai Leighton Andrews.

“Mae Colegau Cymru wedi rhoi gwarant y byddan nhw’n parhau i hyrwyddo Adroddiad Humphreys fel model o arfer da. Byddaf hefyd yn ailsefydlu’r arfer o gadw lleoedd i staff ar fyrddau colegau i sicrhau bod rôl yn dal i fod gan staff colegau yn y gwaith o lywodraethu beth bynnag fo’r trefniadau a ddilynir gan golegau.

“Mae’r darpariaethau addysg uwch rwyf yn eu cynnig yn y Bil hwn yn adlewyrchu ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu a’r trefniadau newydd ar gyfer cyllido addysg uwch a chymorth i fyfyrwyr,” meddai.

“Bydd y cynigion hyn yn gofalu bod gan Gymru sector addysg uwch cryf a chystadleuol sy’n addas i’r diben ac sy’n cael ei ariannu’n effeithiol.”

Mae gan y cyhoedd hawl i ymateb i’r Papur Gwyn, rhwng heddiw a Medi 24.