Fe fydd 6,000 yn llai o blismyn rheng flaen o fewn y tair blynedd nesaf o ganlyniad i doriadau’r Llywodraeth yng nghyllid heddluoedd Cymru a Lloegr, yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd heddiw.

Mae adroddiad Arolygiaeth Heddluoedd Ei Mawrhydi (HMIC) yn rhybuddio y gall tri o heddluoedd yn Lloegr – yr heddlu Metropolitan, Dyfnaint a Chernyw a Sir Lincoln – fethu â darparu gwasanaeth effeithlon i’r cyhoedd yn y dyfodol.

Yn ôl yr adroddiad mae 17,600 o swyddi’r heddlu wedi diflannu ers mis Mawrth 2010 er mwyn gwneud arbedion o £749m.

Mae nifer y swyddi a fydd yn cael eu colli yn uwch na’r hyn roedd adolygiadau blaenorol wedi ei amcangyfrif a dydy’r ffigurau ddim yn cynnwys heddlu mwyaf Prydain, y Met, neu Sir Gaer sydd heb gyhoeddi eu cynlluniau ar gyfer y tair blynedd nesaf hyd yn hyn.

Dywed adroddiad HMIC bod heddluoedd yng Nghymru a Lloegr hefyd yn bwriadu cau mynediad i’r cyhoedd mewn un o bob pump o orsafoedd yr heddlu – fe fydd 264 o dderbynfeydd yn cau – ond eu bod yn bwriadu agor 137 o safleoedd sy’n rhoi mynediad i’r cyhoedd mewn lleoliadau fel archfarchnadoedd a llyfrgelloedd.

Erbyn 2015, dywed heddluoedd eu bod yn bwriadu cael gwared â 5,800 o swyddogion rheng flaen. Mae’n rhaid i heddluoedd wneud arbedion o £2.4biliwn erbyn 2015 o ganlyniad i ostyngiad o 20% yng ngrantiau’r Swyddfa Gartref i awdurdodau’r heddlu.

‘Pryder am ddiogelwch y cyhoedd’

Wrth ymateb i’r adroddiad dywedodd gweinodog Llywodraeth Leol a Chymunedau Cymru, Carl Sargeant: “Rydw i wedi bod yn dweud ers peth amser, yn groes i farn Llywodraeth San Steffan, nad yw’n bosib gwneud toriadau sylweddol i gyllid heddluoedd heb effeithio nifer y swyddogion rheng flaen.

“Mae adroddiad HMIC yn dangos bydd gan Gymru 610 yn llai o blismyn  rheng flaen erbyn 2015 ac rwy’n bryderus iawn y bydd hyn yn cael effaith andwyol ar ddiogelwch y cyhoedd.”

Dywedodd bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno  500 o swyddogion cymunedol cynorthwyol newydd i gynorthwyo’r heddlu yn eu gwaith.

Dywedodd prif arolygydd yr heddluoedd, Syr Denis O’Connor, bod heddluoedd wedi ymateb i’r her drwy gwtogi ar eu gwariant tra’n parhau i gynnal y gwasanaeth i’r cyhoedd, ond dywedodd y bydd yn rhaid iddyn nhw drawsnewid y ffordd maen nhw’n gweithio er mwyn paratoi ar gyfer y toriadau nesaf sydd i ddilyn.