Shaun Edwards gyda Warren Gatland sydd wedi ymuno â’r tîm yn Awstralia
Mae hyfforddwr amddiffyn tîm rygbi Cymru, Shaun Edwards, wedi dweud ei fod yn awyddus i’r tîm rwystro’r Wallabies rhag sgorio mwy na 18 pwynt yn yr Ail Brawf ym Melbourne heddiw.

“Mae’n amlwg yn sialens enfawr,” meddai.

Ond dywedodd fod y tîm yn edrych ymlaen yn fawr at herio’r Awstraliaid unwaith eto. “Mae rhai yn teimlo y gallan nhw chwarae’n well nag y gwnaethon nhw’r wythnos diwethaf,” meddai Edwards.

Yn dilyn y golled yn y Prawf Cyntaf yn Brisbane, mae’r chwaraewyr profiadol  Matthew Rees, Alun Wyn Jones a Ryan Jones wedi cael eu cynnwys yn nhîm Cymru. Mae’r Capten, Sam Warburton, wedi dweud y bydd yn rhaid i’r Cymry gael y gorau ar ddau chwaraewr allweddol i Awstralia, Will Genia a David Pocock, os ydyn nhw am ennill y gêm heddiw.