Lloegr dan y lach gan bapur newydd o Sweden
Mae un o bapurau tabloid Sweden wedi rhoi swadan i dim pêl-droed Lloegr cyn y gêm heno – gan greu tudalennau blaen ffug i bapurau Saesneg yn dweud eu bod nhw wedi colli.

Mae’r tabloid, Aftonbladet yn rhagfynegi buddugoliaeth o 5-0 i Sweden mewn spwff o dudalennau blaen papurau Llundain bore fory.

Mae neges ddrygionus wrth ochr y lluniau yn dweud, “Annwyl Loegr, dyma i chi dudalennau blaen bore fory. Mwynhewch!”

Yn y spwffs, mae papur newydd The Sun yn dweud, “Smorgas-bored to death!” ac mae’r Daily Star yn adrodd, “H0ly 5hit!” Ar y fersiwn gwneud o’r Daily Mirror, mae’r geiriau “Broken Hart” ac mae’n dangos llun o’r gol-geidwad, Joe Hart, yn crio ar ôl y gêm.

Mae geiriau eraill yn dweud, “Black Friday as Sweden destroys us”, tra bod penawdau ffug y Daily Mail yn cyhoeddi, “L0-5ers”.