Mae’r Eglwys yng Nghymru wedi mynegi ei phryder dros ganiatáu priodasau hoyw ac wedi ei siomi nad oes cyfeiriad at yr Eglwys  yn nogfen ymgynghorol y Swyddfa Gartref.

Mae Llywodraeth y DU  yn ymgynghori ar hyn o bryd ar ganiatáu priodasau hoyw ac mae Eglwys Loegr eisoes wedi datgan ei gwrthwynebiad ar y sail mai uniad rhwng dyn a menyw yw priodas.

Dywedodd esgobion yr Eglwys yng Nghymru mewn datganiad eu bod yn sylwi nad oes yr un cyfeiriad at yr Eglwys yng Nghymru yn y ddogfen ymgynghorol, er bod Eglwys Cymru, sydd wedi ei datgysylltu wrth y wladwriaeth, hefyd yn cysegru priodasau yn yr un modd ag Eglwys Loegr.

Mae’r Eglwys yng Nghymru wedi dweud ei bod yn “gresynu” fod yr ymgynghoriad yn edrych ar yr arfer o gofrestru a phriodi cyplau hoyw ac nid ar yr egwyddor. Dywed fod priodas yn sefydliad o fewn cymdeithas ac nid yn drefniant preifat rhwng unigolion.

Mynegodd yr Eglwys ei phryder y bydd y cynigion i ganiatáu priodasau hoyw yn arwain at “ddryswch mawr a dadlau.”

Yn ôl esgobion yr Eglwys yng Nghymru mae priodasau hoyw yn syniad newydd iawn fel perthynas ffurfiol  o fewn cymdeithas ac nad yw’n eglur sut bydd priodasau hoyw yn gwahaniaethu oddi wrth y partneriaethau sifil sy’n bodoli ar hyn o bryd.

“Nid yw’n eglur ychwaith beth fydd pwrpas cadw partneriaethau sifil wrth ochr priodasau o’r un rhyw, yn enwedig gan nad oes partneriaethau sifil ar gyfer cyplau heterorywiol yn cael eu cynnig.

“Mae’n ymddangos fod hyn yn creu anghyfartaledd newydd,” medd yr esgobion.

Ymateb Stonewall Cymru

Dywedodd mudiad Stonewall Cymru fod ymateb yr Eglwys yng Nghymru yn “dwyn sylw at y ffaith bod cwplau hoyw yn cael eu heithrio o’r stad priodasol.”

“Does dim cynnig yn yr ymgynghoriad i orfodi unrhyw sefydliad crefyddol i briodi cwplau o’r un rhyw” meddai Andrew White, Cyfarwyddwr Stonewall Cymru sy’n ymgyrchu dros hawliau pobol hoyw.

“Mae’n fater o ryddid crefyddol, dylai unrhyw eglwys fod yn rhydd i wrthod dathlu partneriaethau tymor hir rhwng dau berson o’r un rhyw.  Ar yr un pryd, ni ddylai fod gan unrhyw Eglwys yr hawl i stopio sefydliadau eraill neu’r wladwriaeth rhag cydnabod perthynas o’r fath”

“Hyderwn y bydd yr Eglwys yng Nghymru yn dod rownd i gysyniad priodas gyfartal, a nodwn sylwadau diweddar gan yr Archesgob yn crybwyll y gall ei eglwys fod yn fwy groesawgar i gwplau hoyw” meddai Andrew White.