Nick Clegg
Fe ddywedodd Nick Clegg heddiw bod y wasg wedi “anwybyddu neu ddirmygu” ef a’r Democratiaid Rhyddfrydol cyn iddyn nhw ffurfio Llywodraeth Glymblaid gyda’r Ceidwadwyr.

Wrth roi tystiolaeth i Ymchwiliad Leveson heddiw, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sut yr oedd, yn ystod cinio gyda Rupert Murdoch a phrif weithredwr News International Rebekah Brooks yn 2009, wedi cael ei roi i eistedd “ar ddiwedd y bwrdd lle mae plant yn eistedd, fel petai.”

Pan ddaeth yn arweinydd y blaid yn 2008, nid oedd y rhan fwyaf o bobl flaenllaw yn gwybod pwy oedd o, meddai.

Dywedodd ei fod wedi cael cinio gyda golygydd The Sun Dominic Mohan ym mis Mawrth 2010 a chyfarfod “byr” iawn gyda Rupert Murdoch a Rebekah Brooks.

Roedd hefyd wedi datgelu ei fod yn adnabod Fred Michel o News Corporation am fod eu plant yn mynd i’r un ysgol. Mae ’na bwysau ar yr Ysgrifennydd Diwylliant Jeremy Hunt i ymddiswyddo oherwydd ei gysylltiadau â Fred Michel.

Dywedodd Nick Clegg bod ei berfformiad da yn ystod y darllediad cyntaf o’r ddadl rhwng arweinwyr y pleidiau cyn yr etholiad cyffredinol wedi newid agwedd y papurau newydd tuag ato.

Yn hytrach na bod yn “ddi-hid” amdano fe ddechreuon nhw fod yn fwy ymosodol, meddai.