Lesley Griffiths
Mae Llywodraeth Cymru wedi beirniadu honiadau ei bod wedi “camarwain” pobl ynglŷn â faint o arian mae’n ei wario ar gleifion canser.
Mae ’na alw cynyddol wedi bod dros yr wythnos diwethaf ar y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths i sefydlu cronfa arbennig ar gyfer cyffuriau newydd i drin canser.
Y llynedd, roedd Llywodraeth y DU wedi lansio Cronfa Gyffuriau Canser gwerth £200 miliwn i Loegr gyda’r bwriad o wella’r “record wael” o drin canser o’i gymharu â gweddill Ewrop.
Ond mae Lesley Griffiths wedi dadlau nad oes angen cronfa debyg yng Nghymru gan ei bod eisoes yn gwario £4.50 yn fwy y pen ar gleifion na Lloegr.
‘Camarweiniol’
Ond mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn dweud bod eu gwaith ymchwil nhw yn dangos bod y ffigwr oddeutu 47c yn fwy y pen ac mae’r blaid wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o gael eu ffigyrau’n anghywir.
Dywedodd arweinydd y Dems Rhydd Kirsty Williams bod y gweinidog yn “fwriadol” heb gynnwys y gronfa o £200m yn ei chasgliadau, a bod y ffigurau’n “gamarweiniol”.
Ond mae Llywodraeth Cymru wedi gwadu’r awgrymiadau ac yn mynnu ei bod yn dal i wario mwy ar ofal canser i bob claf o’i gymharu â Lloegr.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Nid oedd y gronfa gyffuriau gwerth £200m yn Lloegr yn bodoli yn 2010-11 a dyna pam na chafodd ei gynnwys yn ein cyfrifon.”
Dywedodd bod cronfa dros dro o £50m yn bodoli ond mai dim ond £27.5m gafodd ei wario. Roedd hyn yn cau’r bwlch mewn gwariant yng Nghymru a Lloegr o ryw 45c y pen, meddai.
“Hyd yn oed gyda’r Gronfa Gyffuriau Canser ni fydd Lloegr yn gallu ‘dal i fyny’ gyda’r ffigwr uwch yng Nghymru mewn gwariant ar ofal canser.”
Ychwanegodd y llefarydd, o’r 24 o gyffuriau sydd ar gael yn y Gronfa Gyffuriau Canser, bod 16 o’r rheiny wedi cael eu defnyddio yng Nghymru – ac nad oedd cais wedi bod gan gleifion am yr wyth cyffur arall.