Simon Thomas
Mae Aelod Cynulliad dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru wedi dweud bod hi’n “warthus” nad yw Cyngor Sir Benfro wedi gwneud cynnydd ar fater amddiffyn plant.

“Mae diffyg cynnydd gwarthus ar y mater hwn. Dylai Llywodraeth Cymru weithredu cyn gynted ag y bo modd” meddai Simon Thomas, llefarydd addysg Plaid Cymru.

Ddoe dywedodd Llywodraeth Cymru fod cynnydd Cyngor Sir Benfro yn y maes “yn boenus o araf” yn dilyn honiadau o gam-drin mewn ysgolion y llynedd.

Mae’r Llywodraeth wedi rhoi rhybudd terfynol i’r Cyngor Sir weithredu ac mae Arweinydd Penfro, y Cynghorydd Jamie Adams, yn cwrdd gyda Gweinidogion heddiw.

Mae Jamie Adams, sydd wedi bod yn Arweinydd ar Gyngor Sir Benfro ers tair wythnos,  wedi datgan ei “benbleth” dros amseriad y feirniadaeth gan y Llywodraeth ac yn mynnu fod pethau wedi gwella yn ystod y misoedd diwethaf.