Maurice Jones tu allan i'w dy yn Nhal-y-Bont
Mae Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion wedi cyhoeddi manylion apêl i godi arian i’r rheiny a gafodd eu heffeithio gan lifogydd gogledd Ceredigion.
“Rydym yn pryderu’n fawr y gallai unigolion a theuluoedd fod yn wynebu caledi oherwydd y llifogydd,” meddai Ellen ap Gwyn, Arweinydd Ceredigion a chynghorydd dros un o’r ardaloedd a gafodd eu taro waethaf, sef Talybont.
Cyngor Sir Ceredigion sydd yn gweinyddu’r gronfa apêl ac mae’n cael ei rheoli yn annibynnol fel elusen.
Mae hen siop Boots ar Ffordd y Môr, Aberystwyth yn agor y bore ‘ma er mwyn derbyn dodrefn bach, dillad gwely ac offer i’r gegin ar gyfer y bobol a gollodd eiddo yn y dŵr.
Mae’r gronfa apêl hefyd wedi agor uned C2 ar stad ddiwydiannol Glanyrafon ger Llanbadarn ar gyfer dodrefn mwy o faint a nwyddau mawr sy’n cael eu rhoi yn rhodd.
Sut i gyfrannu
Mae’r Cyngor Sir yn derbyn arian ac mae modd cyfrannu dros y ffôn ar 01970 633252 neu drwy anfon siec, yn daladwy i Gyngor Sir Ceredigion, at Gronfa Ap Apêl y Llifogydd, Canolfan Rheidol, Aberystwyth, SY23 3EU.
Ymhlith y pentrefi yng ngogledd Ceredigion a gafodd eu heffeithio fwyaf gan y llifogydd oedd Talybont, Dôl-y-bont, a Llanbadarn Fawr, a chanmolodd Arweinydd y cyngor ymdrech y gymuned a’r gwasanaethau brys i ddelio a’r llifogydd.
“Gwelsom ysbryd cymunedol Ceredigion ar ei orau,” meddai Ellen Ap Gwyn.
Ychwanegodd fod trafnidiaeth ar y ffyrdd a’r rheilffyrdd yn rhedeg yn ôl yr arfer bellach, ond bod angen i bobol fod yn ofalus o’u hiechyd. Ddoe mynegodd gwyddonwyr bryder y gallai afonydd gogledd Ceredigion fod wedi cael eu llygru gan fetelau gwenwynig o hen fwyngloddiau.