Yr Arlywydd Bashar Assad
Fe allai pennaeth pwyllgor cenedlaethol Olympaidd Syria gael ei wahardd rhag mynychu’r Gemau yn Llundain oherwydd ei gysylltiadau â’r Arlywydd Bashar Assad.
Yn ôl The Guardian, mae disgwyl i’r Cadfridog Mowaffak Joumaa gael ei atal rhag dod i’r DU oherwydd ei gysylltiad â lluoedd Syria.
Mae’r trais yn y wlad wedi gwaethygu yn ddiweddar gyda’r bai yn cael ei roi ar luoedd yr Arlywydd Assad.