Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud wrth gylchgrawn Golwg yr wythnos hon mae’r her o ran achub y Gymraeg yw perswadio’r werin i siarad yr iaith.
A ddoe ar faes yr Urdd roedd Dafydd Iwan hefyd yn pwysleisio mae’r frwydr fawr nesaf i garedigion y Gymraeg fydd hyrwyddo’i defnydd yn ei chymunedau naturiol.
Amser te ddoe roedd Comisiynydd y Gymraeg yng Nghaernarfon yn ymgynghori ar ei chyfres o ‘safonau’ statudol sydd i fod i sicrhau cysondeb o ran gwasanaethau cyhoeddus yn Gymraeg.
Ond yn ôl Carwyn Jones nid dyma’r flaenoriaeth o ran dyfodol yr iaith.
“Y broblem sydd yna ar hyn o bryd yw bod lot fawr iawn o waith wedi cael ei wneud ynglŷn â statws yr iaith,” meddai wrth gylchgrawn Golwg.
“Dyw hynny ddim yn meddwl llawer i bobol sydd yn siarad Cymraeg ar yr hewl yn Nyffryn Aman, er enghraifft.
“I droi hynny fewn i realiti iddyn nhw mae’n rhaid rhoi mwy o gyfle iddyn nhw siarad Cymraeg.
“Dw i’n adnabod lot fawr o bobol sydd yn gallu siarad Cymraeg ond sydd yn dewis siarad Saesneg, achos maen nhw wedi arfer gwneud hynny. Felly’r sialens yw newid yr arfer.”
Neges debyg gan Dafydd Iwan
Wrth siarad â chylchgrawn Golwg cyn lansiad taith Cymdeithas yr Iaith i dynnu sylw at bwysigrwydd y Gymraeg fel iaith gymunedol ddoe, roedd gan Dafydd Iwan neges debyg i un Carwyn Jones.
“Rydyn ni i gyd yn sylweddoli bod iechyd yr iaith Gymraeg – beth bynnag yw’r statws, y ffurflenni a’r arwyddion swyddogol – yn dibynnu ar y defnydd sy’n cael ei wneud ohoni mewn cymunedau…dyw hi ddim yn cymryd rhyw ddealltwiraeth fawr i ddeall yn y pen draw mae’r iaith yn fyw neu’n marw yn ei chymunedau naturiol.”
Cewch fwy o Carwyn Jones – ei fwriad i ddwyn fôts Plaid Cymru a’i rybudd am ddyfodol S4C – yn y cyfweliad llawn gydag Anna Glyn yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon.