Guto Harri
Mae Guto Harri, cyn-bennaeth cyfathrebu Maer Llundain, wedi dechrau swydd newydd heddiw fel cyfarwyddwr cyfathrebu News International sy’n berchen i Rupert Murdoch.
Roedd Guto Harri wedi bod yn llefarydd i Boris Johnson ers pedair blynedd ac wedi helpu i gynllunio ei ymgyrch lwyddiannus i gael ei ail-ethol yn Faer Llundain yn gynharach yn y mis.
Cyn hynny roedd wedi treulio 18 mlynedd fel newyddiadurwr, gan ddechrau ei yrfa mewn radio a theledu Cymraeg.
Clywodd Ymchwiliad Leveson wythnos diwethaf bod David Cameron wedi ei ystyried ar gyfer swydd cyfarwyddwr cyfathrebu’r Blaid Geidwadol cyn penderfynu rhoi’r swydd i Andy Coulson, cyn olygydd y News of the World, un o bapurau News International.
Dywedodd Guto Harri: “Mae gan News International rhai o’r newyddiadurwyr mwyaf uchel eu parch yn y DU, yn cynhyrchu’r papur newydd mwyaf poblogaidd, ac wedi gosod y dasg i’w hun o fod yn un o’r sefydliadau cyfryngau sy’n cael eu rheoli orau.
“Mae’n gyfnod heriol iawn i’r diwydiant papurau newydd yn gyffredinol ac i News International yn arbennig. Ond, gydag ymrwymiad cadarn i newyddiaduraeth mewn print ac ar-lein, rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y cyfle i chwarae fy rhan mewn helpu’r arweinyddiaeth Newydd i sefydlu dyfodol cryf.”
Mae Guto Harri, 45, yn olynu Andrew Honnor, oedd wedi cael ei benodi i’r swydd dros dro.