Mae buddsoddiad o £6.4m gan archfarchnad Morrisons  yn mynd i greu 90 o swyddi newydd yng Nglannau Dyfrdwy.

Mae ffatri trin cig ffres Farmers Boy Deeside ar hyn o bryd yn darparu cigoedd wedi’u sleisio a bwydydd deli ar gyfer siopau Morrisons, ac fe fydd yr arian ychwanegol yn mynd tuag at baratoi cyfres o brydau cyw iâr parod-i’w-bwyta.

“Fe fydd gan y gwaith newydd y gallu i baratoi 40 tunnell o brydau cyw iâr bob wythnos,” meddai Mario Jacobs, Rheolwr Cyffredinol, Farmers Boy Deeside.

“Fe fyddwn ni’n darparu’r prydau ar gyfer pob un o 477 o archfarchnadoedd Morrisons yng ngwledydd Prydain.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi’r gwaith o ehangu’r ffatri yng Nglannau Dyfrdwy gyda buddsoddiad o £635,000 trwy Gronfa Twf Economaidd. Bwriad y gronfa honno ydi rhoi cefnogaeth frys i brosiectau sy’n creu swyddi ac sy’n rhoi hwb i’r economi.

“Fe fydd creu 90 o swyddi newydd yn yr ardal hon, a buddsoddi £6.4m, yn mynd i roi hwb sylweddol i’r economi yn y rhan hon o ogledd Cymru,” meddai Edwina Hart, Gweinidog Busnes Llywodraeth Cymru.