Ddyddiau’n unig cyn i’r Fflam Olympaidd gyrraedd Cymru mae’r trefnwyr wedi dweud fod y fflam wedi diffodd y bore ma.

Diffoddodd y fflam am y tro cyntaf tra roedd y cystadleuwr para-badminton David Follet yn ei chludo wrth ochr ei gadair olwyn.

“Ffagl ddiffygiol” oedd ar fai meddai llefarydd ar ran trefnwyr y Gemau Olympaidd, ond ychwanegodd nad yw hynny’n beth anghyffredin.

Cafodd y ffagl ei hail-gynnau gan y ‘fam fflam’ sy’n cael ei chadw yn un o gerbydau’r orymdaith.

“Rydym ni’n cadw’r fam fflam mewn lanterni arbennig felly os yw ffagl yn diffodd, am ba bynnag reswm, rydym ni’n gallu ei hail-gynnau o ffynhonnell y fflam” ychwanegodd y llefarydd.

Ddydd Gwener mae’r fflam yn cyrraedd Cymru yn Nhrefynwy ac yn teithio i’r gorllewin ac i fyny’r arfordir.

Ddydd Sul bydd y fflam yn cael ei chludo ar gefn ceffyl yn Aberaeron. Y Cobyn Cymreig Maesmynach Angerdd yw’r unig geffyl sy’n cael cludo’r fflam Olympaidd ar ei thaith trwy wledydd Prydain, a’r marchog a fydd yn cario’r ffagl yw perchennog y gaseg, Eric Davies o Gribyn.

“Mae’n anrhydedd i’r Cobyn Cymreig mai ef yw’r unig frîd sy’n cael cario’r fflam” meddai Eric Davies, sy’n Llywydd Cymdeithas y Cobiau a’r Merlod Cymreig eleni.