Llanelli 2-1 Y Bala

Llanelli fydd yn cymryd lle olaf Uwch Gynghrair Cymru yn Ewrop y tymor nesaf wedi iddynt guro’r Bala yn rownd derfynol y gemau ail gyfle o flaen camerâu Sgorio brynhawn Sadwrn.

Roedd y tîm cartref ddwy gôl ar y blaen wedi dim ond ugain munud ond brwydrodd y Bala yn ôl yn ddewr wedi hynny ac roedd angen perfformiad gwych gan y gôl-geidwad, Craig Richards, ar Lanelli i guro’r gêm o 2-1 yn y diwedd.

Hanner Cyntaf

Dechreuodd Llanelli yn fywiog ac roeddynt ar y blaen toc wedi tri munud o chwarae diolch i’w prif sgoriwr, Rhys Griffiths. Cafwyd cyd chwarae da rhwng Jason Bowen a Craig Williams ar y dde a daeth croesiad cywir Bowen o hyd i Griffiths yn y cwrt chwech a gorffennodd y prif sgoriwr ar y cynnig cyntaf.

Bu bron i Mark Connolly unioni’r sgôr wedi deg munud gyda foli gelfydd o gornel y cwrt cosbi ond roedd y gôl-geidwad cartref, Craig Richards, yn effro a llwyddodd i arbed yn gymharol gyfforddus.

Llanelli a gafodd y cyfle nesaf wedi chwarter awr ond llwyddodd Terry McCormick i wneud arbediad da pan ergydiodd Antonio Corbisiero o ochr y cwrt cosbi ar ddiwedd symudiad da.

Dyblodd y tîm cartref eu mantais wedi 19 munud pan sgoriodd y cefnwr chwith, Lloyd Grist. Aeth Grist am y gôl gyda chic rydd o ochr y cwrt cosbi a gwyrodd oddi ar amddiffynnwr Y Bala, John Irving, ac i gefn y rhwyd.

Er eu bod ddwy gôl ar ei hôl hi roedd y Bala yn y gêm o hyd a chafodd Connolly ddau hanner cyfle gyda chiciau rhydd tuag at ddiwedd yr hanner. Arbedodd Richards y gyntaf yn gyfforddus wedi 37 munud cyn arbed yr ail yn gampus ddau funud yn ddiweddarach. Roedd cic wych Connolly yn mynd yn syth i’r gornel uchaf ond cafodd gôl-geidwad Llanelli flaenau ei fysedd i’r bêl i’w gwyro ar y trawst.

Yr ymwelwyr a orffennodd yr hanner orau a daeth Mark Jones yn agos gydag ergyd dda o 30 llath eiliadau cyn yr egwyl ond daliodd y Cochion eu gafael ar eu dwy gôl o fantais wrth i’r hanner ddod i ben.

Ail Hanner

Dechreuodd Y Bala’r ail hanner yn addawol hefyd a daeth y cyfle cyntaf i Ian Sheridan wedi 50 munud. Creodd y blaenwr y cyfle iddo ef ei hun gyda rhediad da ond arbedodd Richards yn gyfforddus.

Y Bala oedd y tîm gorau bellach ond ychydig o gyfleoedd a grëwyd serch hynny. Hynny yw, tan chwarter awr o’r diwedd pan sgoriodd Lee Hunt. Cafwyd gwaith da gan Stephen Brown ar yr asgell dde ac amserodd Hunt ei rediad i’r cwrt chwech yn berffaith er mwyn haneru mantais y tîm cartref.

Roedd gôl Llanelli dan warchae yn awr ond roedd Richards yn cael gêm anhygoel yn y gôl i’r tîm cartref. Gwnaeth arbediad dwbl arbennig ddeg munud o’r diwedd i atal Hunt ac yna Brown.

Cafodd Sheridan hanner cyfle ddau funud yn ddiweddarach ond roedd ei ergyd yn wan. Ond ciciau gosod Connolly oedd y prif fygythiad o hyd a tharodd y trawst gydag ymdrech wych o 25 llath ddau funud o’r diwedd yn dilyn arbediad blaen bysedd anhygoel arall gan Richards.

Daliodd Llanelli eu gafael felly i gipio lle yn Ewrop am y seithfed tymor yn olynol. Siom i’r Bala ar y llaw arall ond tymor digon derbyniol i’r tîm o’r gogledd.

Barn y Rheolwyr

Er bod rheolwr Y Bala, Colin Caton, yn hapus iawn gyda pherfformiad ei dîm roedd yn siomedig iawn â’r canlyniad ac yn teimlo fod ei dîm yn haeddu gwell:

“Dwi’n meddwl mai ni oedd yn haeddu ennill y gêm heddiw. Ar ôl yr ugain munud cyntaf fe wnaethon ni lwyr reoli. Fu dim rhaid i Terry McCormick wneud arbediad ar ôl i’r ddwy gôl gyntaf fynd i mewn ond allwn ni ddim amddiffyn fel yna a rhoi dwy gôl i dimau ar y lefel yma.”

Roedd rheolwr Llanelli, Andy Legg, hefyd yn hapus iawn gyda pherfformiad ei dîm yn enwedig yn yr hanner cyntaf ac yn edrych ymlaen am ymgyrch Ewropeaidd arall:

“Mae saith blwyddyn yn olynol [yn Ewrop] yn dipyn o gamp i glwb bach fel ni ac rydym yn edrych ymlaen am ymgyrch arall.”