Ben Ainslie
Mae’r fflam Olympaidd wedi cychwyn ar ei thaith o amgylch y DU.
Ben Ainslie, sydd wedi ennill tair medal aur Olympaidd am hwylio, oedd y cyntaf i gario’r ffagl o Land’s End am 7.15 y bore yma ar ôl i’r fflam gyrraedd maes awyr y Llynges yn Culdrose ddoe.
Bydd 100 o bobl yn cario’r fflam yn ystod y dydd heddiw ac 8000 yn ei chario yn ystod y daith 70 diwrnod fydd yn gorffen yn y Stadiwm Olympaidd yn Llundain ar 27 Gorffennaf.
Bydd y cyflwynydd teledu Ben Fogle yn cario’r fflam mewn balŵn uwchben Prosiect Eden heddiw. Pan ddaw i Gymru bydd yn cael ei chludo i gopa’r Wyddfa.
Bydd y fflam yn cael ei chario trwy 1,019 o ddinasoedd, trefi a phentrefi ym mhob cwr o’r DU ac o fewn 10 milltir i 95% o’r boblogaeth yn ystod y daith.
Cafodd y fflam ei chynnau o wrês yr haul wythnos yn ôl yn Olympia, Gwlad Groeg sef cartref y gemau Olympaidd gwreiddiol.