Heno ar S4C fe fydd cyfle i wylio Pontypridd yn herio Llanelli am dlws y Principality Premiership.
Y ddau dîm yma fu’n herio’i gilydd yn y ffeinal union flwyddyn yn ôl, gyda Llanelli’n fuddugol ar Heol Sardis 24-18.
Bydd whiff o ddial yn yr aer ar Heol Sardis heno, oherwydd y tymor diwetha’ Pontypridd wnaeth orffen ar frig y tabl gyda 106 o bwyntiau, tra’r oedd Llanelli ar 90 pwynt.
Ac eleni eto Pontypridd sydd wedi gorffen ar y brig, gyda 91 o bwyntiau, ond roedd Llanelli yn dynn ar eu sodlau y tro hwn gydag 89 o bwyntiau.
Ond aiff cyfanswm y pwyntiau drwy’r ffenestr heno, a phwy bynnag sy’n dod i’r brig yn y ffeinal fydd yn frenin.