Mae’r cefnwyr disglair Brian O’Driscoll a Rob Kearney wedi pasio’u profion ffitrwydd ac yn barod i helpu Leinster herio Ulster yfory yn ffeinal y Cwpan Heineken.

Mae’r ddau yn dechrau yfory er gwaethaf i O’Driscoll dderbyn llawdriniaeth i’w ben-glin yr wythnos ddiwethaf a Kearney yn gwella wedi poen yn ei gefn.

12 mis yn ôl fe ddioddefodd yr un fath o anaf i’w ben-glin, gan adael amheuon ynglŷn â’r rownd derfynol yn erbyn Northampton bryd hynny.

‘‘Un peth am gael gyrfa hir, rydych yn dysgu’n gyflym i ddelio â chael ambell ergyd wrth fynd i fewn i gemau,’’ meddai O’Driscoll.

Bydd yr ail-reng o Seland Newydd Brad Thorne yn creu hanes os bydd Leinster yn ennill yfory, drwy fod y chwaraewr cyntaf i ennill Cwpan y Byd, Cynghrair Super 15 a’r Cwpan Heineken.  Mae’r chwaraewr 37 oed wedi bod yn rhan allweddol o ymgyrch Leinster i gyrraedd y rownd derfynol.

Mae Leinster wedi codi’r Cwpan Heineken ddwywaith yn barod (2009 a 2011).  Pe baen nhw’n curo Ulster yfory, nhw fydd y cyntaf i godi’r cwpan am y drydedd gwaith mewn pedair mlynedd.