Carcharwyd Ched Evans ar Ebrill 20
Mae’r heddlu wedi cyfarfod â staff o Sky News, ar ôl i’r darlledwr enwi’r ferch yn ei harddegau a gafodd ei threisio gan y pel-droediwr, Ched Evans.

Mae swyddogion o Heddlu Gogledd Cymru wedi cyfweld yn ffurfiol staff yn swyddfa’r cwmni yn Llundain, fel rhan o’u hymchwiliad i’r achos.

Mae’r Prif Arolygydd Steve Williams o Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau fod Sky News yn cydweithredu’n llawn gyda’r ymchwiliad a fydd, yn ei dro, yn cael ei drosglwyddo i Wasanaeth Erlyn y Goron a swyddfa’r Twrnai Cyffredinol.

Fe gafodd Ched Evans ei ddedfrydu i bum mlynedd o garchar ar Ebrill 20 eleni am dreisio merch 19 oed mewn gwesty. Roedd yn mynnu ei fod yn ddieuog, ac mae’n bwriadu apelio’n erbyn y ddedfryd.

Ar ôl yr achos

Yn dilyn yr achos yn Llys y Goron Caernarfon, yr honiad ydi fod enw’r ferch wedi ei gyhoeddi ar Twitter a gwefannau eraill.

Cafodd dau o ddynion eu harestio ar Fai 9 mewn cysylltiad â’r enwi at Twitter; un dyn arall ar amheuaeth o gyfathrebu maleisus; un arall wedyn ar amheuaeth o gyfathrebu maleisus a than Adran 5 o’r Ddeddf Troseddau Rhywiol.

Mae dau ddyn hefyd wedi eu harestio ar amheuaeth o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Mae cyfanswm o 17 o bobol wedi eu harestio yng ngogledd Cymru a de Swydd Efrog yng nghwrs yr ymchwiliad.