Roberto Martinez
‘‘Ni ddylai Kenny Dalglish fod wedi cael ei ddiswyddo.  Roedd yn haeddu mwy o amser,’’ meddai cyn-chwaraewr canol cae Lerpwl Terry McDermott wrth Sky Sports.

Mi orffenon nhw’n yr wythfed safle y tymor hwn yn yr Uwch Gynghrair, a dyma oedd eu tymor gwaethef ers y 1950au.

Yn ôl papurau fel y Daily Mirror a The Independent mae Roberto Martinez wedi cael caniatâd ei glwb Wigan i siarad â Lerpwl am y sywdd wag.

Mae Martinez hefyd wedi cael ei gysylltu gyda swydd yn Aston Villa yn sgîl ymadawiad Alex McLeish, ond mae Cadeirydd Wigan Dave Whelan yn ceisio tawelu’r sibrydion yna.

‘‘Byddwn wrth fy modd yn ei gadw. Ond mae ganddo’r cyfle i reoli un o glybiau mwyaf Ewrop.  Roberto fydd â’r penderfyniad olaf,’’ meddai Whelan.

Mae rheolwr newydd Lerpwl yn debygol o dderbyn mwy na £30 miliwn.

 Mae cyn-reolwr Chelsea Andre Villas-Boas hefyd yn cael ei grybwyll ar gyfer y swydd, ond mae’n annhebygol mae ef fydd rheolwr nesaf Lerpwl.

Mae Brendan Rodgers wedi gwrthod y swydd, ac am barhau i fod yn reolwr yn Abertawe y tymor nesaf.