Mae’r Gweinidog Llywodraeth Leol wedi cyhoeddi heddiw y bydd Comisiynwyr yn rhedeg Cyngor Ynys Môn tan o leiaf ddiwedd mis Medi.

Mae’r Gweinidog wedi penderfynu ymestyn goruchwyliaeth y Comisiynwyr, a oedd i fod i ddod i ben ar ddiwedd Mai, am bedwar mis arall o leiaf. Dywedodd Carl Sargeant eu bod nhw wedi gwneud “cynnydd da” ond ei fod yn disgwyl nes bod tîm newydd o uwch-reolwyr yn eu lle cyn ei fod yn sicr y bydd yr adferiad yn parhau.

Ychwanegodd: “Rwyf wedi dweud o’r blaen na fydd yr adferiad yn gyflawn hyd nes y byddwn wedi adfywio democratiaeth ar yr ynys, a hyd nes y bydd etholiadau wedi’u cynnal ar sail sy’n fwy tebygol o greu cyngor cynrychioliadol ac atebol. Ni all hynny ddigwydd tan y flwyddyn nesaf.”

Bydd y Gweinidog yn dechrau dirwyn ei ymyrraeth i ben pan fydd yn fodlon fod y Cynghorwyr a’r uwch-reolwyr yn barod i gymryd yr awenau. Bydd hyn yn golygu lleihau presenoldeb a chyfrifoldebau’r Comisiynwyr, ond bydd gan y Comisiynwyr y pŵer i wrthdroi unrhyw benderfyniadau maen nhw’n eu hystyried yn “annoeth neu’n afresymol.”

Mynegodd Carl Sargeant ei obaith y bydd ei ymyrraeth yn dod i ben yn llwyr “yn fuan wedi’r etholiadau’r flwyddyn nesaf.”

Apwyntio Dirprwy Brif Weithredwr newydd

Cyhoeddodd Cyngor Ynys Môn heddiw mai Bethan Jones fydd Dirprwy Brif Weithredwr y Cyngor.

Ar hyn o bryd mae hi’n un o Gyfarwyddwyr Cyngor Sir Ddinbych a chyn hynny roedd yn Ddirprwy Brif Weithredwr yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Ei phrif rôl yn Ynys Môn fydd arwain swyddogaethau mewnol y Cyngor, gan gynnwys cynllunio busnes, perfformiad a pholisi. Bydd hi’n dechrau ar ei swydd ar ddiwedd yr haf.