Ed Miliband
Mae Ed Miliband wedi bod yn feirniadol o Araith y Frenhines, gan ddweud bod na ddiffyg cynlluniau i roi hwb i’r economi a cheisio gostwng nifer y di-waith.
Yn y Senedd prynhawn ma dywedodd arweinydd y Blaid Lafur nad oedd y Ceidwadwyr na’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cymryd sylw o neges y pleidleiswyr yn yr etholiadau lleol ddydd Iau diwethaf.
Dywedodd nad oedd yr araith yn “cynnig unrhyw beth” i bobl ifainc sy’n chwilio am waith, nac i deuluoedd sy’n ei chael hi’n anodd cael dau ben llinyn ynghyd, na’r “miliynau sy’n teimlo nad yw’r Llywodraeth ar eu hochr nhw”.
“Mae nhw wedi methu,” meddai Ed Miliband. “Dim newid, dim gobaith – dyna neges go iawn Araith y Frenhines.”
Fe gyhuddodd y Prif Weinidog o fethu â chyflwyno deddfwriaeth i reoli cyflogau arweinwyr busnes, nac unrhyw fesurau i leihau’r baich ar deuluoedd, na mesur i fynd i’r afael â’r argyfwng mewn gofal i’r henoed.