Mae nifer y bobol sy’n byw ar y stryd yng Nghymru wedi cyrraedd ei lefel uchaf ers pum mlynedd.
Mae ffigyrau diweddaraf Llywodraeth Cymru yn dangos fod 1,845 o deuluoedd yn cael eu hystyried yn ddigartref rhwng Gorffennaf a Medi 2011 – sy’n gynnydd o 15% ar y flwyddyn gynt, ac yn gynnydd o 25% ers 2009.
Mae cynghrair cymdeithasau’r digartref, ‘Rough Sleepers Cymru’, yn rhybuddio heddiw fod y cyfuniad o doriadau mewn taliadau lles, economi bregus, a chostau byw cynyddol yn gwthio mwy a mwy o bobol i fyw ar y stryd.
Yn ôl Tim Paddock, cadeirydd Rough Sleepers Cymru, does “dim amheuaeth fod nifer cynyddol o bobol yng Nghymru yn ei chael hi’n anodd cadw to dros eu pennau, gan gynnwys nifer nad oedd byth yn meddwl y byddai digartrefedd yn eu heffeithio nhw.
“O roi hyn gyda’r toriadau mewn gwariant cyhoeddus sy’n rhwystro gallu cynghorau i helpu’r rheiny sy’n cael eu bygwth â digartrefedd, mae’n anochel y bydd mwy o bobol yn cael eu gorfodi i fyw ar y stryd,” meddai.
Llochesi’n llawn
Rhybuddiodd hefyd mai dim ond “rhan o’r darlun” oedd ffigyrau Llywodraeth Cymru, a bod prosiectau adeiladu a hostelau wedi darganfod galw llawer uwch am eu gwasanaeth yn y misoedd diwethaf.
Mae prosiect ‘Wallich Shoreline’, sy’n darparu lloches barhaol, bwyd, cwnsela ac yn trefnu gofal iechyd i bobl sy’n byw ar y stryd yng Nghaerdydd yn llawn dop ar hyn o bryd, ac yn ceisio delio â’r holl alw am eu gwasanaeth.
Yn ôl llefarydd ar ran y prosiect, mae nifer y bobol sy’n cael eu cyfeirio atyn nhw wedi “cynyddu o 212 i 261 yn 2011-2012.
“Y llynedd fe lwyddwyd i ychwanegu chwe lle arall, ond fe lenwodd y llefydd hynny yn syth, ac r’yn ni ar hyn o bryd yn chwilio am eiddo arall er mwyn ymestyn ymhellach, er mwyn adlewyrchu’r galw.”
Ym Merthyr Tudful, mae dau hostel mynediad uniongyrchol y sir yn dweud fod y bobol sy’n dod atyn nhw yn gorfod aros yn hirach gan fod llai o lefydd iddyn nhw fynd ar ôl yr hostel.
“Ar hyn o bryd, dydyn ni ond wedi cael awgrym o’r effaith y bydd newidiadau i’r system daliadau lles yn eu cael. Yn y flwyddyn sydd i ddod, pan fydd y toriadau yn gafael go iawn fydd hi’n arbennig o anodd, felly mae’n bwysicach nag erioed i’r llywodraeth a sefydliadau yng Nghymru i gydweithio yn fwy effeithlon i ddiogelu’r rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas,” meddai Tim Paddock.