Mae tŷ ar Ynys Môn lle y cafodd dau aelod o’r Super Furry Animals eu magu wedi ei roi ar y farchnad.
Mae’n gartref i Dr Carl Iwan Clowes, tad dau aelod o’r Super Furries, sef Cian Ciaran a’r drymiwr Dafydd Ieuan.
Dywedodd Carl Clowes ei fod ef a’i wraig Dorothi yn gobeithio symud yn ôl o Ynys Môn i Ben Llŷn, a’u bod nhw wedi penderfynu gwerthu’r adeilad rhestredig £795,000 ar ôl 32 mlynedd.
Mae Carl Clowes, 68, yn ymgynghorydd iechyd ac yn gonswl er anrhydedd i Lesotho. Tra’n feddyg teulu ym Mhen Llŷn ffurfiodd Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn a brynodd y pentref anghyfannedd a sefydlu canolfan ar gyfer dysgu Cymraeg i oedolion yno.
Dywedodd wrth bapur newydd y Western Mail nad oedd ei fechgyn a’i ferched yn rhy sicr ynglŷn â’r penderfyniad i werthu’r tŷ, ond yn parchu eu penderfyniad nhw.
“Cafodd y bechgyn eu magu yn y tŷ, a dechreuon nhw ymarfer â bandiau yn y tŷ, ac fe aethon nhw i Ysgol David Hughes pum milltir i lawr y lôn,” meddai.
“Pan oedden nhw tua 11 neu 12 oed fe ddechreuon nhw chwarae drymiau, ac roedd rhaid i mam a dad gadw draw o’r pen yna o’r tŷ.
“Dyma le oedd y bandiau cynnar yn cyfarfod a chwarae, ac roedd Gruff Rhys yma yn ymarfer yn ystod cyfnod Ffa Coffi Pawb.”
Roedd Y Wigoedd, cyn dy fferm ar Ystâd Plas Gwyn gerllaw, hefyd yn gyn-gartref i’r Parch. John Phillips a sefydlodd y Coleg Normal ym Mangor.