(Llun: ITV)
Mae côr Only Boys Aloud wedi ennill eu lle yn rownd derfynol Britain’s Got Talent.

Daeth y grŵp yn ail ym mhleidlais y cyhoedd yn y sioe fyw gyntaf gafodd ei darlledu am 8pm nos Sul. Roedden nhw wedi canu yn Gymraeg unwaith eto.

Fe fyddwn nhw’n cystadlu yn y rownd derfynol ddydd Sadwrn nesaf.

Ci oedd yn gwneud triciau, Pudsey, a’i berchennog, Ashley, dderbyniodd y mwyaf o bleidleisiau’r cyhoedd.

Roedd rhaid i’r beirniaid ddewis rhwng Only Boys Aloud a band The Mend. Ond fe gafodd y ddau grŵp dwy bleidlais yr un gan olygu mai pleidleisiau’r cyhoedd oedd yn penderfynu pwy oedd yn cael cyrraedd y rownd derfynol.