(Llun: ITV)
Mae côr Only Boys Aloud wedi dweud eu bod nhw’n edrych ymlaen at y cyfle i gynrychioli Cymru ar ôl cyrraedd rownd gynderfynol sioe Britain’s Got Talent.

Fe fydd y sioe fyw gyntaf yn cael ei darlledu am 8pm heno ma, a bydd cyfle i’r cyhoedd bleidleisio am eu ffefrynnau ymysg yr ymgeiswyr drwy gydol yr wythnos.

Mae’r côr ymysg y ffefrynnau i ennill i gystadleuaeth, pe baen nhw’n ennill digon o bleidleisiau i oroesi’r rownd cyn-derfynol a chyrraedd y ffeinal.

Roedd y côr wedi ennill eu lle yn y rownd gynderfynol drwy ganu ‘Calon Lân’, gan ennill cymeradwyaeth gwresog gan y beirniaid.

Dywedodd cyfarwyddwr cerddorol y côr 140 aelod, Tim Rhys-Evans, ei fod yn gobeithio y bydd pobol Cymru yn dangos eu cefnogaeth yn ystod y rhaglenni byw.

Roedd ei gôr Only Men Aloud yn fuddugoliaethus yn rhaglen Last Choir Standing y BBC yn 2008.

“Fe fyddai wedi bod yn rhyfedd os na fydden ni wedi cyrraedd y rownd gynderfynol ar ôl ymateb y beirniaid yn dilyn y perfformiad,” meddai wrth bapur newydd y Western Mail.

“Ond mae’n anodd gwybod sut y bydd pethau’n mynd. Fe fyddai yn wych gallu cyrraedd y rownd derfynol.

“Beth bynnag sy’n digwydd, mae cael canu ar raglen mor fawr yn gyfle gwych ac rydyn ni wrth ein bodd bod yr hogiau yn cael y fath sylw.

“Y gobaith yw y bydd y Cymry yn dangos eu cefnogaeth. Dyw’r rhan fwyaf o’r hogiau erioed wedi profi unrhyw beth o’r fath.

“Mae nifer wedi eu bwlio yn yr ysgol neu yn dod o gefndiroedd anodd ond nawr fe allen nhw fodloni eu bod nhw wedi cyflawni rhywbeth arbennig.

“Maen nhw’n gallu bod yn dipyn o lond llaw ond rydyn ni’n cael llawer iawn o hwyl.”