Gareth a Nia
Ar ddiwedd mis Mai bydd y gyfres cariad@iaith yn dychwelyd ar S4C, wrth i wyth serengeisio dysgu cymaint o Gymraeg ac sy’n bosib mewn un wythnos.

Bydd enwau’r sêr yn cael eu datgelu brynhawn Sul 13 Mai, mewn rhifyn arbennig o Hwb am 5.00pm.

Yn y rhaglen bydd Nia Parry a Matt Johnson, cyflwynwyr Hwb, yn cyflwyno rhai o’r seren yn ei dro ac yn rhoi’r cyfle cyntaf i ni ddod i adnabod y grŵp.

“Mae hi’n mynd i fod yn wythnos liwgar. Maen nhw’n griw bywiog a dwi’n credu ein bod ni’n mynd i gael gwaith cadw trefn arnyn nhw!” meddai Nia Parry.

“Maen nhw mor frwdfrydig, ond hefyd yn gwbl ddidwyll yn eu cymhelliad ac maen nhw’n amlwg eisiau dysgu Cymraeg. Mae hynny’n ddechrau da!”

Bydd cariad@iaith sy’n cael ei chynhyrchu gan gwmni Fflic, yn dechrau ar 23 a 24 Mai gyda dwy raglen rhagflas i aros pryd cyn i’r rhaglenni byw ddechrau ar y dydd Sadwrn, 26 Mai.

Yna, rhwng 26 a 31 Mai, bydd Nia Parry a Gareth Roberts yn darlledu yn fyw bob nos o wersyll Fforest ger Cilgerran.

Pob dydd bydd y criw yn mynychu gwersi Cymraeg dwys gyda’r tiwtoriaid Nia Parry ac Ioan Talfryn. Yna fe fyddant yn profi eu sgiliau newydd mewn cyfres o dasgau ieithyddol.

“Maen nhw ar lefelau gwahanol o ran sgiliau Cymraeg,” meddai Nia Parry. “Mae rhai yn gwybod eithaf lot, ond eraill yn dechrau gyda bron dim byd. Mae hynny yn mynd i fod yn her.

“O’r cyfnod byr maen nhw wedi treulio gyda’i gilydd, maen nhw i weld yn dod ymlaen yn dda â’i gilydd, ond gawn ni weld sut bydd pethau ar ôl y wers gyntaf!”

Bydd Matt Johnson, un o raddedigion cariad@iaith 2011, yno hefyd i ffilmio cefn llwyfan ar gyfer rhaglen arbennig o Hwb.

Mae gan Matt ambell gyngor i’r sêr cyn iddyn nhw fentro i ffau’r llewod, sef: “Byddwch yn barod i ganu – ddydd a nos” a “cofiwch wrando o hyd” neu mae’n bosib y byddan nhw’n difaru cytuno i gymryd rhan.