Gerallt Pennant fydd y Rhodri Ogwen newydd
Mae’r cyflwynydd Gerallt Pennant yn edrych ymlaen yn arw at gael cyflwyno am y tro cyntaf ar soffa Heno, rhaglen gylchgrawn nosweithiol S4C.
Mae’r darlledwr poblogaidd o Borthmadog yn paratoi am gyfnod prysur iawn pan fydd yn gohebu o bob rhan o ogledd Cymru a hefyd yn cyflwyno dwy sioe bob wythnos o’r stiwdios yn Llanelli.
Fe fydd yn dechrau gohebu o ddydd Llun, 14 Mai ymlaen pan fydd yn darlledu’n fyw o’r Bala ar achlysur dathlu pen-blwydd siop lyfrau Cymraeg Awen Meirion yn 40 oed.
Fe fydd y cyflwynydd wedyn yn y stiwdio nos Fercher a nos Iau pan fydd yn cyd-gyflwyno Heno gydag Emma Walford.
Yn ogystal â Gerallt Pennant, fe fydd Angharad Mair ar y soffa ar nosweithiau Llun a Mawrth, ynghyd â Rhodri Owen, tra mai Eleri Siôn fydd yn cyflwyno sioe nos Wener o hyn ymlaen.
“Dw i wrth fy modd yn teithio ledled gogledd Cymru ar hynt straeon difyr o’n cymunedau, ond mi fydd o’n braf rŵan cael cyflwyno ar y set hefyd,” meddai Gerallt, 52 oed, a fagwyd yn Eifionydd.
“Dw i’n edrych ymlaen yn arw at yr her o fod yng nghanol bwrlwm set Heno yn cyfweld â gwesteion difyr a mynd i galon straeon sydd o ddiddordeb i bobl Cymru.”