Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhoeddi mai Tŷ Gwydr yw’r grŵp diweddaraf i ymuno ag arlwy’r gig ‘50’ ym mis Gorffennaf.

Erbyn hyn, mae trefnwyr y gig wedi enwi deugain o’r hanner cant o artistiaid cerddorol fydd yn cymryd rhan yn yr ŵyl i ddathlu hanner canmlwyddiant y mudiad iaith.

Bydd y diweddaraf yn siŵr o gyfrannu teimlad o nostalgia i’r digwyddiad – roedd Tŷ Gwydr ar eu mwyaf poblogaidd ar ddechrau’r 1990au, a dim ond ar ambell achlysur arbennig maen nhw wedi perfformio ers hynny.

Maent yn ychwanegiad addas iawn i’r rhestr am reswm arbennig iawn – bydd y gig yn nodi bron 20 mlynedd union ers i gig enwog ‘Noson Claddu Reu’ gael ei chynnal yn yr un lleoliad â ‘50’.

Tŷ Gwydr oedd yr ‘headliner’ yn y gig enfawr honno a gafodd ei chynnal ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid yn ystod Eisteddfod Aberystwyth ym 1992.

“Roedd Noson Claddu Reu yn anferth” meddai Gareth Potter o’r grŵp.

“Roedden ni am i’r peth fod yn barti, ac i bobl gael lot o hwyl a sbri…a bod yn rhan o holl beth Tŷ Gwydr. Noson arbennig iawn.”

Digwyddiad cofiadwy

Daeth ‘Reu’ yn ffenomena wedi Eisteddfod Yr Wyddgrug yn Awst 1991, ar ôl i Tŷ Gwydr ddechrau perfformio’r hyn maen nhw’n ei alw’n eu ‘set Reu’.

Ond erbyn Eisteddfod y flwyddyn ganlynol roeddent yn teimlo fod y peth wedi rhedeg ei gwrs, a chafwyd noson fawr i ‘gladdu reu’.

Aelod craidd arall Tŷ Gwydr ydy Mark Lugg, ac mae’n credu bydd gig ‘50’ yn ddigwyddiad yr un mor gofiadwy â’r Noson Gladdu Reu.

“Ry’n ni’n edrych ymlaen yn ofnadwy i fod yn rhan o’r parti yma” meddai Lugg.

“Mae’r Gymdeithas wedi trefnu gigs chwedlonol fel Noson Claddu a Rhyw Ddydd Un Dydd dros y blynyddoedd, ond efallai mai 50 fydd y mwyaf eto ac ry’n ni’n falch iawn o’r cyfle i fod yn rhan o’r peth.”

Mae gig ’50’ yn digwydd ym Mhafiliwn Bont ar benwythnos 13-14 Gorffennaf eleni. Mae’r trefnwyr yn enwi un artist sy’n perfformio bob wythnos ar eu cyfrif Twitter.

Fideo un o ganeuon enwocaf Tŷ Gwydr, ‘Rhyw Ddydd’