Mae arweinydd y Lib Dems wedi dweud bod pleidleiswyr yng Nghymru wedi anfon neges i’r Glymblaid yn San Steffan ddoe, wedi i’w phlaid ddiodde’ colledion trwm yn yr etholiadau lleol.

Yn ogystal â chipio grym ar gynghorau Caerdydd ag Abertawe, fe lwyddodd Llafur i gymryd seddi oddi ar y Lib Dems yn Wrecsam hefyd. Hyd at ddoe roedd plaid Kirsty Williams yn rheoli’r tri cyngor mawr yma.

“Beth yr ydym wedi ei weld yw noson wael i unrhyw blaid wleidyddol sydd heb y gair ‘Llafur’ yn ei deitl,” meddai wrth BBC Radio Wales.

“Mae pris grym yn San Steffan yn arbennig o uchel ar y foment. Credaf ei bod yn glir bod ein cydweithwyr yno’n gwneud penderfyniadau anodd sydd eto i ddwyn ffrwyth.”