Fe roddodd y bobol chwip dîn go-iawn i Glymblaid Cameron a Clegg ddoe wrth heidio i fotio dros y Blaid Lafur.
Rhoddwyd cynghorau Southampton, Birmingham, Norwich a Great Yarmouth yng ngofal plaid Ed Miliband.
O fewn ei etholaeth ei hun yn Oxfordshire, fe welodd David Cameron y Torïaid yn colli tair sedd i Lafur yn Witney Central, Witney East a Chipping Norton.
Cafwyd celpan arall i Cameron wrth i bobol Manceinion, Nottingham a Coventry wrthod y syniad o gael maer etholedig.
Ar y cyfan mae’n debyg y bydd Llafur yn ennill mwy na’r 700 o seddi yr oedd yr arbenigwyr wedi ei osod fel arwydd o berfformiad da.
Yn ôl y BBC fe gafodd Llafur 39% o’r bleidlais, y Torïaid ar 31% a’r Lib Dems ar 16%.