Keith Evans, cyn-Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion
Mae pum arweinydd cyngor yng Nghymru wedi colli eu seddi dros nos, wrth i fap gwleidyddiaeth leol mewn sawl rhan o’r wlad newid ei liw.
Fe gollodd cynghorau Ceredigion, Wrecsam, Caerffili, Merthyr Tudful a Bro Morgannwg eu harweinyddion yn ystod oriau man y bore ’ma.
Ac mae disgwyl cyfri am y trydydd tro am 1pm heddiw i weld a fydd cyn-arweinydd Cyngor Caerdydd, y Dem Rhydd Rodney Berman, yn cadw gafael ar ei sedd yn ward Plasnewydd.
Yr arweinwyr sydd wedi colli eu seddi yw Keith Evans (Annibynnol) Ceredigion, Allan Pritchard (Plaid Cymru) Caerffili, Jeff Edwards (Annibynnol) Merthyr Tudful, Gordon Kemp (Ceidwadwyr) Bro Morgannwg, a Ron Davies (Dems Rhydd) Wrecsam.
Uchafbwynt prin i Blaid Cymru
Fe gollodd arweinydd Cyngor Ceredigion, Keith Evans, ei sedd yn Llandysul i Blaid Cymru, yn un o uchafbwyntiau prin y noson i’r blaid ar draws Cymru.
Cipiwyd y sedd oddi wrth Keith Evans, sydd wedi bod yn gynghorydd ers 1987, 103 o bleidleisiau gan Pete Evans, ymgeisydd newydd i Blaid Cymru.
Wrth siarad â Golwg 360 wedi’r canlyniad, a welodd tri aelod o Gabinet Cyngor Sir Ceredigion yn cael eu disodli gan ymgeiswyr newydd Plaid Cymru, dywedodd nad oedd y canlyniad wedi ei “synnu” oherwydd y ffordd yr oedd Plaid wedi targedu seddi eleni.
“Roedd Plaid Cymru yn targedi’r seddi cabinet yn drwm eleni,” meddai.
“Dwi’n credu eu bod nhw eisie llai o resistance wrth y rhai sydd â gwybodaeth, sy’n gwbod shwt ma pethe i fod i gael eu rhedeg.”
Yn ôl y cyn-arweinydd, roedd dau brif reswm dros iddo golli ei sedd o 373 pleidlais i 270.
“Roedd dau beth: y ffaith bo’ nhw wedi targedi’r sedd mor drwm, a’r mater o godi tâl am barcio ar stepen y drws,” meddai, gan gyfeirio at ffrae ddiweddar yn nhref Llandysul dros orfodi trigolion lleol i dalu am barcio.