Er bod traean o siroedd Cymru eto i ddechrau cyfri, mae Llafur Cymru eisoes yn dweud fod etholiad 2012 wedi bod yn llwyddiant ysgubol i’r blaid.
Hyd yn hyn mae Llafur Cymru wedi cymryd rheolaeth o’r newydd dros Gynghorau Casnewydd, Caerffili, Merthyr Tudful, Blaenau Gwent ac Abertawe. Roedd Llafur yn rheoli pedwar Cyngor yng Nghymru wedi etholiad 2008.
Ond ar ôl etholiad hynod siomedig i’r blaid yn 2008, mae Llafur Cymru i’w gweld yn ennill tir sylweddol yn ôl eleni, yn enwedig wrth gipio seddi oddi wrth y Ceidwadwyr yng Nghasnewydd, Caerdydd a Bro Morgannwg.
Wrth ymateb i’r canlyniadau cynnar dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, fod Llafur Cymru wedi profi fod ganddyn nhw “fomentwm” yn etholiad 2012.
“Rydyn ni’n cymryd seddi oddi ar bob plaid ar draws y wlad – gyda llwyddiannau arbennig yn Wrecsam, Caerffili, Casnewydd, a disodli’r Dems Rhydd yn llwyr ym Merthyr,” meddai.
Er eu bod nhw wedi addo ymgyrchu ar faterion lleol eleni, un o negeseuon amlycaf Llafur Cymru drwy gydol y misoedd diwethaf oedd i “yrru neges” at David Cameron a’i ddirprwy, Nick Clegg.
Ac mae’n ymddangos fod y dacteg wedi gweithio – yn enwedig yn erbyn y Dems Rhydd, sydd wedi colli nifer helaeth o’u seddi yng Nghaerdydd, sef cyngor mwyaf Cymru.