Mae dau Gymro oedd wedi torri i mewn i sŵ yn Awstralia a dwyn pengwin wedi cael dirwy o £637.
Roedd Rhys Owen Jones, 21 oed, a Keri Mules, 20 oed, o dde Cymru wedi ymddangos o flaen ynadon yn Brisbane heddiw ac wedi pledio’n euog i gyhuddiadau o dresbasu, a dwyn a chadw anifail gwarchodedig.
Cafodd y ddau eu harestio ar ôl torri mewn i Sea World yn Queensland ar ôl noson o yfed ar 14 Ebrill.