Mae Rupert Murdoch wedi beirniadu adroddiad damniol gan bwyllgor o Aelodau Seneddol oedd yn dweud “nad yw’n gymwys” i redeg cwmni rhyngwladol.
Mewn datganiad, mae News Corporation wedi dweud bod adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon ynglŷn â’r helynt hacio ffonau yn y News of the World yn “ddigyfiawnhad ac yn hynod bleidiol”.
Mae’n ymddangos bod y gwahanol bleidiau ar y pwyllgor wedi anghydweld ynglŷn â’r adroddiad. Tra bod yr Aelodau Seneddol yn cytuno bod News Corp wedi camarwain yr ymchwiliad, fe wrthododd ASau Ceidwadol i gefnogi’r adroddiad ar ôl i Lafur a’r Dems Rhydd gynnwys y feirniadaeth am Rupert Murdoch.
Wrth ymateb i’r adroddiad, dywedodd News Corp bod y pwyllgor wedi amlygu gwendidau o fewn y cwmni.
Mewn ebost i staff News International dywedodd Rupert Murdoch eu bod “yn gweithio’n galed i wella’r sefyllfa.”