Gareth Williams
Fe fydd y crwner sydd wedi bod yn ymchwilio i farwolaeth yr ysbïwr MI6 o Ynys Môn yn cyhoeddi rheithfarn heddiw.

Mae disgwyl i Dr Fiona Wilcox gyhoeddi rheithfarn naratif neu agored ar ôl clywed tystiolaeth gan yr heddlu, arbenigwyr,  cyd-weithwyr, cyfeillion a theulu Gareth Williams dros y saith diwrnod diwethaf.

Mae teulu Gareth Williams wedi aros 21 mis i geisio darganfod sut y bu farw ar ôl i’w gorff gael ei ddarganfod mewn bag yn y bath yn ei fflat yn Pimlico, Llundain.