Mae beiciwr mynydd wedi cael ei ddarganfod yn farw mewn fan yn Ne Cymru wedi iddo ddiflannu ar ôl sesiwn ymarfer ar gyfer cystadleuaeth.

Roedd Alex Kaiser o Fryste wedi bod yn cymryd rhan mewn sesiwn ymarfer ar gyfer cystadleuaeth Cymdeithas Beicio Lawr Rhiw Cymru cyn i’r heddlu dderbyn adroddiadau ei fod ar goll.

Dywedodd yr Heddlu’r De ddydd Mawrth fod ei gorff wedi cael ei ddarganfod mewn fan ddydd Llun, yn y maes parcio gerllaw safle’r gystadleuaeth yn Rheola, ger Glyn-nedd.

Roedd y dyn 28 oed i fod i briodi mewn wyth wythnos. Neges at ei ddarpar wraig am 4.30pm brynhawn Sadwrn oedd y tro diwethaf i unrhyw un glywed ganddo.

Mae swyddogion yn trin y farwolaeth fel un “anesboniadwy” ar hyn o bryd, a dywed yr heddlu bod dyweddi Alex Kaiser, ei deulu, a’r crwner wedi cael gwybod.

Y tro diwethaf i unrhyw un weld y peiriannydd electroneg yn fyw oedd yn ystod ymarfer ar gyfer y gystadleuaeth ddydd Sadwrn.

‘Beiciwr anhygoel’

Yn ôl rhai oedd yno, roedd yn ymarfer ar gefn beic yr oedd newydd ei brynu yn ystod y sesiwn rasio yn Rheola.

Ond fe ddechreuodd rai bryderu amdano pan fethodd â chysylltu â’i ddarpar-wraig Sarah ar ôl ei neges destun olaf brynhawn Sadwrn.

Wedi i Alex Kaiser fethu â throi fyny i’r ras ei hun ddydd Sul, fe ddechreuodd swyddogion chwilio amdano.

Ond heddiw fe gadarnhaodd Heddlu De Cymru fod ei gorff wedi ei ddarganfod  mewn fan VW Caddy arian, ym maes parcio’r gystadleuaeth – fan yr oedd Alex Kaiser wedi ei logi am y penwythnos.

Heddiw, mae Clwb Beicio Mynydd Bryste wedi mynegi tristwch o glywed y newyddion am un o’u swyddogion.

Dywedodd llefarydd ar ran y Clwb fod “Alex wedi cael ei ddarganfod yn ei fan. Yn anffodus, mae’n ymddangos fel petai wedi marw yn ei gwsg.

“Roedd yn aelod gwerthfawr iawn o’n clwb ni ac fe fydd yn cael ei golli’n arw gan lawer o bobol,” meddai’r llefarydd.

Mae teyrngedau hefyd wedi cael eu rhoi ar wefannau cymdeithasol, yn ogystal ag ar fforwm ar-lein y clwb beicio.

Dywedodd un neges fod y newyddion yn “sioc aruthrol, dwi mor ypset o glywed beth sydd wedi digwydd i Alex. Ffrind gwych a beiciwr anhygoel.”