Mae’r Gymdeithas Bêl-droed wedi cadarnhau mai Roy Hodgson yw rheolwr newydd Lloegr.

Mae Hodgson, 64 oed, wedi arwyddo cytundeb pedair blynedd, hyd at ddiwedd yr Ewro 2016.

Fe fydd Hodgson yn parhau i fod yn gyfrifol am West Brom ar gyfer dwy gêm olaf yr Uwch Gynghrair, er y bydd yn cael ei ryddhau ar gyfer dyletswyddau gyda thîm Lloegr.