Golwg 360 sy’n cymryd golwg ar rai o’r cynghorau lleol sy’n werth eu gwylio ar 3 Mai. Heddiw, mae Catrin Haf Jones yn edrych ar y sefyllfa yng Ngheredigion…
Mae hi eisoes yn 1-1 i Blaid Cymru a’r Grŵp Annibynnol yng Ngheredigion yn etholiadau lleol 2012, gydag ymgeisydd yr un wedi eu hethol yn ddiwrthwynebiad mewn dwy ward.
Ond fe fydd Plaid Cymru yn gobeithio gwneud yn well na thynnu’n gyfartal yn 2012, wedi iddyn nhw fethu â sicrhau mwyafrif yn y Cyngor yn 2008 – a chael eu gwthio i’r ymylon wrth i’r Grŵp Annibynnol greu clymblaid enfys gyda’r Dems Rhydd ac un Llafurwr er mwyn rhedeg y Cyngor.
Methu cipio’r awenau o drwch blewyn fu hanes Plaid Cymru yn 2008, gyda’u 20 cynghorydd un yn brin yn erbyn clymblaid 22 aelod yr enfys.
Ond tra bod Plaid yn llygadu ambell i sedd newydd eleni, mae o leiaf un wedi llithro o’u dwylo, i afael yr Annibynwyr.
Yn Llangeitho y mae hynny, lle mae cyn-gynghorydd Plaid Cymru wedi penderfynu peidio â sefyll eleni, a does dim ymgeisydd arall gan y blaid yn ei le. Yn ôl y sôn yn lleol, yr ymgeisydd Annibynnol sydd fwyaf tebygol o’r tri o fynd â hi eleni – gan roi un sedd ychwanegol i’r Grŵp Annibynnol.
Ond mae Plaid Cymru yn brwydro’n galed, ac yn ne Ceredigion maen nhw i’w gweld yn dawel hyderus bod ganddyn nhw gyfle da i gipio sedd oddi wrth y Dems Rhydd yn Llanarth, gydag ymgeisydd Plaid yn herio Cynghorydd a etholwyd yn ddiwrthwynebiad yn 2008.
Ond tra bod brwydro carreg y drws yn bwysig, gyda phersonoliaethau mor ddylanwadol ag erioed, mae’r cyd-destun cenedlaethol hefyd yn chwarae’i ran.
Sir sy’n tynnu’n groes
Sir sy’n torri ei chwys ei hun yw Ceredigion, a thynnu’n groes i’r duedd genedlaethol yw ei harfer pan mae’n dod i etholiadau. Ac mae’n debyg mai dyna fydd y drefn eto eleni.
Tra bod y gwybodusion yn darogan adfywiad i Lafur ar draws Cymru, wrth iddyn nhw adennill y seddau a gollwyd yn 2008, does dim ond un ymgeisydd Llafur yng Ngheredigion gyfan.
Mae’r Ceidwadwyr yn gwneud ychydig yn well, gydag 19 ymgeisydd ar gyfer y 42 sedd – er bod tri o’r ymgeiswyr hynny yn dod o’r un cartref.
Ond etholiad rhwng Plaid Cymru, y Dems Rhydd a’r Grŵp Annibynnol yw hwn yn draddodiadol.
Eleni, mae Plaid Cymru yn cystadlu am 33 sedd, tra bod y Dems Rhydd yn cystadlu am 28 sedd, a’r Annibynwyr yn ceisio ennill 21 sedd.
Tra bod y tir sosialaidd yn creu cystadleuaeth rhwng Llafur a Phlaid Cymru fel arfer, nid felly yng Ngheredigion, lle mae etholwyr yn cael eu rhwygo’n gyson rhwng bwrw pleidlais i’r Dems Rhydd neu i Blaid Cymru.
Neges y pleidiau
Mae’r Dems Rhydd wedi trio dwyn perswad ar bleidleiswyr fod Llafur yn rhoi bargen wael iddyn nhw yn y Cynulliad, a bod pleidlais iddyn nhw yn bleidlais o blaid pethau fel rhewi treth y Cyngor, ac arbed gwasanaethau lleol. Ond wrth i’r esgid fach wasgu, bydd gwaith perswadio ar garreg y drws mai ym Mae Caerdydd y mae’r bai am bopeth.
Er nad oes ganddyn nhw fwy nag un ymgeisydd yng Ngheredigion, tybed a fydd neges y Blaid Lafur yn condemnio Llywodraeth San Steffan yn cael unrhyw effaith ar bleidlais y Democratiaid Rhyddfrydol, a fydd hefyd yn llai tebyg o gael cefnogaeth myfyrwyr ar ôl y tro bedol tros ffioedd prifysgol.
A’r Grŵp Annibynnol wedyn mae eu maniffesto (oes, er eu bod yn ‘Annibynnol’, mae ganddyn nhw faniffesto) yn nodi mai amddiffyn gwasanaethau lleol sydd â llai o gyllideb yw eu nod, a rhoi blaenoriaeth i addysg – er bod y flaenoriaeth honno wedi sathru ar draed ambell un dros y blynyddoedd diwethaf wrth i’r Annibynwyr gefnogi cau ysgolion bach a chreu ysgolion bro.
Felly gyda Llafur allan ohoni, a’r Ceidwadwyr heb un sedd ar y Cyngor ar hyn o bryd, a’r un ymgeisydd Gwyrdd ar gyfyl y lle, mae’n ymddangos mai brwydr rhwng tri fydd yng Ngheredigion eleni eto – gydag un prif gwestiwn ar ddiwedd y dydd: a fydd Ceredigion yn dychwelyd i’r enfys wedi’r etholiad, neu a fydd un blaid yn llwyddo i groesi trothwy’r 21 sedd a sicrhau mwyafrif?
Gallwch weld rhestr llawn o’r ymgeiswyr ar draws Ceredigion wrth glicio YMA.